2015 Rhif 1182 (Cy. 79) (C. 71)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20131, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015.

Y diwrnod penodedig2

Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i rym yw 1 Mai 2015—

a

adran 55 (gwefannau cynghorau cymuned);

b

adran 56 (gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronig);

c

adran 57 (cyfarfodydd a thrafodion cymunedau);

d

adran 58 (cofrestrau buddiannau aelodau);

e

adran 68 (cyd-bwyllgorau safonau); ac

f

adran 69 (atgyfeirio achosion yn ymwneud ag ymddygiad).

Leighton AndrewsY Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”). Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn i’w wneud o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adrannau 55, 56, 57, 58, 68 a 69 o’r Ddeddf ar 1 Mai 2015.

Mae adran 55 yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned sicrhau bod gwybodaeth benodol am y cyngor cymuned ar gael yn electronig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned, pan fydd yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 55, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 56 yn diwygio adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) sy’n ymwneud â’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus. Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad cyhoeddus a roddir gan gyngor cymuned gael ei gyhoeddi’n electronig.

Mae adran 57 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Atodlen 12 i Ddeddf 1972. Mae Atodlen 12 yn ymwneud â chyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol ac mae’r diwygiadau yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth benodol yn electronig gan gynghorau cymuned.

Mae adran 58 yn diwygio adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”). Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol bod cofrestr buddiannau’r aelodau o dan adran 81 o Ddeddf 2000 ar gael yn electronig a bod yr wybodaeth am sut i gael mynediad ati hefyd ar gael.

Mae adran 68 yn diwygio adran 53 o Ddeddf 2000 i alluogi awdurdodau perthnasol i sefydlu cyd-bwyllgorau safonau gydag un neu ragor o awdurdodau eraill. Mae’r ddarpariaeth newydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ymwneud â chyd-bwyllgorau o’r fath ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sy’n ystyried sefydlu cyd-bwyllgor roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 69 yn diwygio adran 73 o Ddeddf 2000 sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn ymwneud â materion a atgyfeirir at swyddog monitro awdurdod perthnasol. Mae’r diwygiadau yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud sy’n ymwneud â gallu’r swyddog monitro neu bwyllgor safonau un awdurdod i atgyfeirio mater i bwyllgor safonau awdurdod arall. Mae adran 69 hefyd yn diwygio adran 81 o Ddeddf 2000 mewn perthynas â goddefebau a ganiateir gan bwyllgorau safonau o dan adran 81(4) pan fydd aelod neu aelod cyfetholedig wedi cofrestru buddiant drwy gydnabod y caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall ganiatáu goddefeb a thrwy ehangu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn adran 81(5) i’w galluogi i wneud darpariaeth am y weithdrefn i’w dilyn.

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaeth a ganlyn y Ddeddf wedi ei dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 63

11.4.2004

2014/380 (Cy. 45) (C. 15)