(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn amrywio Rhan 1B o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 11981 (p. 69) (“y Ddeddf”), sy’n rhestru’r anifeiliaid nad ydynt fel arfer yn bresennol ym Mhrydain Fawr mwyach ac na chaniateir eu rhyddhau neu ganiatáu iddynt ddianc i’r gwyllt.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu’r Afanc Ewrasiaidd at Ran 1B o Atodlen 9 i’r Ddeddf o ran Cymru (ar hyn o bryd mae’r Afanc Ewrasiaidd wedi ei gynnwys o ran Lloegr yn unig).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru (Yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth), Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR.