RHAN EPWERAU RHEOLI’R TRIBIWNLYS
Datgelu dogfennau a deunydd arall32
1
Caiff y Tribiwnlys—
a
cyfarwyddo parti i gyflwyno i’r Tribiwnlys erbyn dyddiad penodedig unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall y mae gofyn amdani neu amdano gan y Tribiwnlys, ac sydd o fewn gallu’r parti hwnnw i’w chyflwyno neu gyflwyno,
b
rhoi cyfarwyddyd ar—
i
unrhyw fater y mae’n ofynnol datgelu tystiolaeth yn ei gylch,
ii
natur a maint y datgeliad,
iii
y modd y mae’r ddogfen neu dystiolaeth arall i’w darparu i’r Tribiwnlys, a
iv
allgáu unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall sy’n amherthnasol, yn ddiangen neu a gafaelwyd yn amhriodol.
2
Caiff y Tribiwnlys osod amod ar gyflenwi copi o unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall sy’n cael eu cyflenwi wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n cael ei roi o dan baragraff (1), bod rhaid i’r parti sy’n ei dderbyn defnyddio’r copi at ddibenion y cais yn unig.
3
Caiff y Tribiwnlys, cyn cyflenwi copi, ofyn am ymgymeriad ysgrifenedig y bydd y person sy’n rhoi’r ymrwymiad yn ufuddhau i’r amod sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (2).
4
Caiff y Tribiwnlys ganiatáu i barti’r un fath o orchymyn ar gyfer datgelu neu archwilio dogfennau (gan gynnwys cymryd copïau) ac y gellid ei ganiatáu o dan Reolau’r Weithdrefn Sifil 19984.
5
Rhaid i orchymyn o dan baragraff (4) gynnwys rhybudd y bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol, o dan adran 126 o’r Mesur, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.