RHAN EPWERAU RHEOLI’R TRIBIWNLYS

Tystiolaeth a chyflwyniadau30

1

Caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ar—

a

y materion y mae’n ofynnol cael tystiolaeth neu gyflwyniadau yn eu cylch,

b

natur y dystiolaeth neu’r cyflwyniadau sy’n ofynnol,

c

unrhyw gyfyngiadau ar dystiolaeth neu gyflwyniadau sy’n gyson â’r amcan pennaf,

d

pa un a fydd y partïon yn cael caniatâd i ddarparu tystiolaeth arbenigol ai peidio, neu a yw’n ofynnol iddynt wneud hynny, ac os felly, a oes raid i’r partïon ar y cyd benodi un arbenigwr i ddarparu tystiolaeth o’r fath,

e

y modd y gall unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau gael eu darparu, a chaiff hynny gynnwys cyfarwyddyd iddynt gael eu rhoi—

i

ar lafar mewn gwrandawiad, neu

ii

fel cyflwyniadau ysgrifenedig neu ddatganiad tyst ysgrifenedig, a

f

yr amser erbyn pryd y bydd rhaid darparu unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau.

2

Caiff y Tribiwnlys ystyried bod methiant person, sy’n barti yn y cais, i gydymffurfio â gofyniad sy’n cael ei wneud o dan baragraff (1), yn absenoldeb unrhyw reswm da dros fethiant o’r fath, yn fethiant i gydweithredu â’r Tribiwnlys.

3

Caiff y Tribiwnlys—

a

yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)(iii), dderbyn unrhyw dystiolaeth berthnasol, pa un a fyddai’r dystiolaeth honno’n dderbyniadwy ai peidio mewn treial sifil yng Nghymru neu Loegr,

b

allgáu tystiolaeth a fyddai, fel arall, yn dderbyniadwy—

i

os na chafodd y dystiolaeth ei darparu o fewn yr amser a ganiateid gan gyfarwyddyd,

ii

os darparwyd y dystiolaeth, rywfodd arall, mewn modd nad oedd yn cydymffurfio â chyfarwyddyd, neu

iii

os byddai’n annheg, rywfodd arall, pe derbynnid y dystiolaeth.