RHAN CCYCHWYN CEISIADAU

Cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer gwneud cais11

1

Rhaid i hysbysiad cais ddod i law’r Tribiwnlys ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad pan roddwyd i’r ceisydd yr hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad ar ran y Comisiynydd sy’n cael ei herio.

2

Yn ddarostyngedig i reol 14, ni chaiff y Tribiwnlys ystyried cais oni chafodd ei gychwyn yn unol â pharagraff (1).