xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)

Caiff y Rheolau yma eu llunio gan Lywydd Tribiwnlys y Gymraeg (“y Tribiwnlys”) a’u caniatáu gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 123 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’r Rheolau yn gosod yr ymarferion a’r gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r Tribiwnlys eu dilyn wrth ymarfer ei awdurdodaeth o dan y Mesur.

Mae Rhan A yn cynnwys darpariaethau cyffredinol gan gynnwys dehongliadau, prif amcanion y Tribiwnlys, rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu, ac ieithoedd y Tribiwnlys.

Mae Rhan B yn cynnwys darpariaethau ar sefydlu, ac aelodaeth, panelau tribiwnlys.

Darpariaethau sydd yn Rhan C, am gychwyn ceisiadau i’r Tribiwnlys ac am y cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer gwneud cais, cynnwys ceisiadau, yr hyn sydd angen ei weithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dderbyn y cais, a phenodi cynrychiolwyr i weithredu ar ran partïon.

Mae Rhan D yn cynnwys darpariaethau ar baratoi achos ar gyfer gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i bartïon baratoi datganiadau achos o fewn amser penodol ynghyd â thystiolaeth y dibynnir arno ar gyfer ei gyflwyno i’r Tribiwnlys. Mae hefyd ddarpariaeth yn y Rhan hon yn gofyn i’r dogfennau yma gael eu rhannu â phartïon eraill. Mae’r Rhan hwn hefyd yn caniatáu i Ysgrifennydd y Tribiwnlys wneud ymholiadau i’r partïon mewn perthynas â materion megis cynrychiolaeth a dibyniaeth ar dystion.

Pwerau rheoli’r Tribiwnlys sydd yn cael sylw yn Rhan E. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaeth i ganiatáu i’r Tribiwnlys wneud cyfarwyddiadau mewn perthynas â cheisiadau ar faterion megis gweithdrefnau, tystiolaeth a datgeliad. Mae’r Rhan hwn hefyd yn rhoi i’r Tribiwnlys y pŵer i ddileu cais, gorchymyn materion tebyg i gael eu clywed gyda’i gilydd, ac i ychwanegu neu newid partïon.

Mae Rhan F yn cynnwys darpariaethau ar wrandawiadau a phenderfyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys anghenion ynghylch hysbysu dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiadau, y weithdrefn i’w dilyn mewn gwrandawiad, darpariaeth tystiolaeth mewn gwrandawiad, pan all achos ddigwydd heb wrandawiad, a phenderfyniadau’r Tribiwnlys.

Darpariaethau sydd yn Rhan G ar faterion sy’n codi yn dilyn gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys adolygiadau o benderfyniadau’r Tribiwnlys gan Lywydd y Tribiwnlys a’r pwerau sy’n berthnasol i adolygiad. Mae’r Rhan hwn hefyd yn amlinellu’r gweithdrefnau i’w dilyn mewn achos o orchymyn yr Uchel Lys yn amrywio, rhoi o’r neilltu neu fel arall yn newid penderfyniad gan y Tribiwnlys.

Darpariaethau amrywiol sydd yn Rhan H megis gorchmynion ar gyfer costau a threuliau, cadw a chynnal Cofrestr o geisiadau i’r Tribiwnlys a chyhoeddu’i benderfyniadau.