Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) ac mae’n dynodi Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan at ddibenion Rhan 1 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud â Rheoleiddio Tai Rhent Preifat. Mae’n cynnwys gofyniad i’r rhan fwyaf o landlordiaid anheddau sy’n cael eu gosod, neu sydd i’w gosod, ar denantiaethau domestig, gofrestru â’r awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i bersonau sy’n ymwneud â gosod neu reoli anheddau o’r fath, gael trwydded gan yr awdurdod trwyddedu dynodedig perthnasol.

Yn unol ag adran 3(4) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd a’r cyfryw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Mae’r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer y Ddeddf yn berthnasol a gellir cael copi gan yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.