Y diwrnod penodedig2.

31 Mawrth 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2012—

(a)

adran 1 (trosolwg);

(b)

adran 2 (is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau);

(c)

adran 3 (ystyr “awdurdod deddfu”);

(d)

adran 4 (dirymu gan awdurdod deddfu);

(e)

adran 5 (dirymu gan Weinidogion Cymru);

(f)

adran 6 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) a Rhan 1 o Atodlen 1;

(g)

adran 7 (is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol);

(h)

adran 8 (materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau);

(i)

adran 10 (tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau);

(j)

adran 11 (is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc);

(k)

adran 12 (y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a Rhan 2 o Atodlen 1;

(l)

adran 13 (swm cosb benodedig) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;

(m)

adran 14 (y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig);

(n)

adran 15 (y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig);

(o)

adran 17 (Swyddogion Cymorth Cymunedol etc);

(p)

adran 18 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;

(q)

adran 19 (tystiolaeth o is-ddeddfau); ac

(r)

adran 20 (diwygiadau canlyniadol) a pharagraffau 1 i 8, 9(1) i (3), (5) a 10 i 18 o Atodlen 2.