NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 22(2) a (3) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“Deddf 2012”). Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn i’w wneud o dan Ddeddf 2012.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 31 Mawrth 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau yn Neddf 2012 a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion mewn cysylltiad ag is-ddeddfau y mae un neu ragor o’r camau a ddisgrifir yn erthygl 3(2)(a) wedi eu cymryd mewn perthynas â hwy cyn y diwrnod penodedig.

Daeth adrannau 18(1) (canllawiau), 21 (gorchmynion a rheoliadau), 22 (cychwyn), a 23 (enw byr) o Ddeddf 2012 i rym ar 30 Tachwedd 2012.

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2012 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
adran 9 (y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 12(13) (y pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosb benodedig o dan Ddeddf 2012)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 13(3) (y pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm cosbau penodedig)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 13(4) (y pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o Ddeddf 2012 a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)
adran 16 (y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012)15 Awst 2014O.S. 2014/2121 (Cy. 207)