NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 22(2) a (3) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“Deddf 2012”). Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn i’w wneud o dan Ddeddf 2012.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 31 Mawrth 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau yn Neddf 2012 a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

  • adran 1 (trosolwg);

  • adran 2 (is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau);

  • adran 3 (ystyr “awdurdod deddfu”);

  • adran 4 (dirymu gan awdurdod deddfu);

  • adran 5 (dirymu gan Weinidogion Cymru);

  • adran 6 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) a Rhan 1 o Atodlen 1;

  • adran 7 (is-ddeddfau pan fo cadarnhad yn ofynnol);

  • adran 8 (materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau);

  • adran 10 (tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau);

  • adran 11 (is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc);

  • adran 12 (y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn a Rhan 2 o Atodlen 1;

  • adran 13 (swm cosb benodedig) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;

  • adran 14 (y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig);

  • adran 15 (y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig);

  • adran 17 (Swyddogion Cymorth Cymunedol etc);

  • adran 18 (canllawiau) i’r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn;

  • adran 19 (tystiolaeth o is-ddeddfau); ac

  • adran 20 (diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 2 ond nid paragraff 9(4) o’r Atodlen honno.

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion mewn cysylltiad ag is-ddeddfau y mae un neu ragor o’r camau a ddisgrifir yn erthygl 3(2)(a) wedi eu cymryd mewn perthynas â hwy cyn y diwrnod penodedig.

Daeth adrannau 18(1) (canllawiau), 21 (gorchmynion a rheoliadau), 22 (cychwyn), a 23 (enw byr) o Ddeddf 2012 i rym ar 30 Tachwedd 2012.

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2012 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

adran 9 (y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012)

15 Awst 2014

O.S. 2014/2121 (Cy. 207)

adran 12(13) (y pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person i roi hysbysiadau cosb benodedig o dan Ddeddf 2012)

15 Awst 2014

O.S. 2014/2121 (Cy. 207)

adran 13(3) (y pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm cosbau penodedig)

15 Awst 2014

O.S. 2014/2121 (Cy. 207)

adran 13(4) (y pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o Ddeddf 2012 a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny)

15 Awst 2014

O.S. 2014/2121 (Cy. 207)

adran 16 (y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 2012)

15 Awst 2014

O.S. 2014/2121 (Cy. 207)