Y dull o laddLL+C
7. Rhaid i unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd aderyn yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r aderyn ymlaen llaw—
(a)sicrhau y lleddir yr aderyn drwy dorri ei ddwy rydweli garotid, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a
(b)bod y gyllell sydd i’w defnyddio ar gyfer lladd—
(i)heb ei difrodi; a
(ii)yn ddigon mawr a llym i ladd pob aderyn yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)