28. Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—
(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;
(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;
(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;
(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;
(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir; ac
(f)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)