NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ffurflenni Cymraeg penodol a ragnodir yn Rheoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol Sicr (Ffurflenni) 1997(1), fel y’u diwygiwyd(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) ac yn mewnosod cyfeiriadau yn y ffurflenni hynny at gredyd cynhwysol.