2014 Rhif 825 (Cy. 83)
Treth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13A(4), 14A, 14B, 14C, 14D a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraff 6 o Atodlen 1B iddi1.
Yn unol ag adrannau 13A(8) a 14D(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.