NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy ddileu’r cyfeiriad at aelodau staff Archwilydd Cyffredinol Cymru (“ACC”).

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio adran 68 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac Atodlen 3 iddi, i roi cyfeiriadau at Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) yn lle cyfeiriadau at ACC.

Mae’r diwygiadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”) sy’n gwneud darpariaeth i ddiwygio trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn rhagnodi bod swyddfa ACC i barhau, ond ar delerau penodedig, ac yn creu corff corfforaethol newydd, SAC, y mae’n rhoi swyddogaethau iddi. Mae hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff ACC i SAC.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.