Datblygiad rhagnodedig2.

At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o’r Ddeddf (digolledu pan gaiff gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol ei dynnu’n ôl), caiff datblygiad o’r disgrifiad canlynol ei ragnodi—

(a)

datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd);

(b)

datblygiad a ganiateir gan Ddosbarthiadau A ac E o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu addasu adeilad diwydiannol neu warws a chodi neu adeiladu storfa sbwriel neu feiciau o fewn cwrtil adeilad diwydiannol neu warws);

(c)

datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai);

(d)

datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig);

(e)

datblygiad a ganiateir gan Ran 41 o Atodlen 2 (swyddfeydd);

(f)

datblygiad a ganiateir gan Ran 42 o Atodlen 2 (siopau, sefydliadau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol); ac

(g)

datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig).