http://www.legislation.gov.uk/wsi/2014/58/signature/made/welsh
Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-11-29
ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“Rheoliadau 2010”). Roedd Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygwyr a gymeradwyir gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru gyflwyno copi o’r hysbysiad cymeradwyo ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Roedd yn ofynnol hefyd i’r arolygwyr gynnwys, ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol, ddatganiad a lofnodwyd gan yr yswiriwr i’r perwyl bod cynllun yswiriant a enwyd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn gymwys i’r gwaith y mae hysbysiad neu dystysgrif yn ymwneud â hwy. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofynion hynny ac yn rhoi yn eu lle ofyniad bod yr hysbysiadau a’r tystysgrifau perthnasol yn datgan bod copïau o’r hysbysiad cymeradwyo a’r datganiad yswiriant ar y gofrestr a gedwir gan y corff dynodedig.
Carl SargeantY Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru