NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“Rheoliadau 2010”). Roedd Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygwyr a gymeradwyir gan gorff a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru gyflwyno copi o’r hysbysiad cymeradwyo ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Roedd yn ofynnol hefyd i’r arolygwyr gynnwys, ynghyd â hysbysiadau a thystysgrifau penodol, ddatganiad a lofnodwyd gan yr yswiriwr i’r perwyl bod cynllun yswiriant a enwyd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn gymwys i’r gwaith y mae hysbysiad neu dystysgrif yn ymwneud â hwy. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofynion hynny ac yn rhoi yn eu lle ofyniad bod yr hysbysiadau a’r tystysgrifau perthnasol yn datgan bod copïau o’r hysbysiad cymeradwyo a’r datganiad yswiriant ar y gofrestr a gedwir gan y corff dynodedig.

Y corff a ddynodir ar hyn o bryd o dan reoliad 3 o Reoliadau 2010 yw Cyngor y Diwydiant Adeiladu.

Mae rheoliad 3 yn ychwanegu rheoliad 5A newydd i Reoliadau 2010, gan ei gwneud yn ofynnol i arolygwr cymeradwy sy’n rhoi hysbysiadau a thystysgrifau penodol i awdurdod lleol sicrhau bod gan y corff dynodedig (neu Weinidogion Cymru os cawsant eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru) gopi o’r datganiad yswiriant mewn cysylltiad â’r gwaith y mae’r hysbysiad neu’r dystysgrif yn ymwneud ag ef.

Mae rheoliad 7 o Reoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff dynodedig (neu Weinidogion Cymru) gynnal rhestr o arolygwyr a gymeradwyir gan y corff hwnnw. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu gofyniad bod yn rhaid i’r corff dynodedig (neu Weinidogion Cymru) gadw’r dystysgrif gymeradwyo a’r datganiad yswiriant y cyfeirir atynt yn y rheoliad 5A newydd.

Mae rheoliad 5 yn dileu’r gofyniad yn rheoliad 30 o Reoliadau 2010 i awdurdod lleol gadw enw a chyfeiriad yr yswiriwr a lofnododd y datganiad yswiriant mewn cysylltiad â’r gwaith y mae hysbysiad neu dystysgrif yn ymwneud ag ef ar ei gofrestr o hysbysiadau a thystysgrifau.

Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i’r ffurflenni perthnasol a bennir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010. Y ffurflenni hyn yw Ffurflen 1 (hysbysiad cychwynnol), Ffurflen 2 (hysbysiad diwygio), Ffurflen 3 (tystysgrif planiau), Ffurflen 4 (hysbysiad cychwynnol a thystysgrif planiau cyfunol) a Ffurflen 5 (tystysgrif derfynol).

Mae rheoliadau 7 i 9 yn gwneud diwygiadau cyfatebol yn Atodlenni 2, 3 a 4 o Reoliadau 2010 i’r seiliau dros wrthod hysbysiad neu dystysgrif gan yr awdurdod lleol.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Ceir copïau oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.