Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru.
Mae’r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfraddau gwahanol o gyfraniadau pensiwn sy’n daladwy gan aelodau’r Cynllun sy’n cynyddu yn ôl swm y cyflog pensiynadwy y mae’r aelod yn ei dderbyn. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau yn y Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 i’r Cynllun.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.