xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Atodlen 1 (plâu planhigion na chaniateir eu glanio yng Nghymru na’u lledaenu oddi mewn i Gymru)

11.  Yn Rhan A (plâu planhigion na wyddys eu bod yn bresennol mewn unrhyw ran o’r Undeb Ewropeaidd) o Atodlen 1(1)

(a)ar ôl eitem 15a, o dan y pennawd “Insects, mites and nematodes”, mewnosoder—

15B.  Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix similaris (Gentner), Epitrix subcrinita (Lec.) and Epitrix tuberis (Gentner);

(b)yn lle eitem 1, o dan y pennawd “Bacteria”, rhodder—

1.   Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto

2.  Xylella fastidiosa (Wells and Raju);

(c)ar y diwedd, mewnosoder—

Molluscs

1.   Pomacea (Perry).

(1)

Diwygiwyd Rhan A o Atodlen 1 gan O.S. 2011/1043, erthygl 9(1). Mewnosodwyd eitem 15a o dan y pennawd “Insects, mites and nematodes” gan O.S. 2007/2716 (Cy. 229), erthygl 3(9). Gwnaed diwygiadau eraill i Ran A o Atodlen 1, ond nid ydynt yn berthnasol.