(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) (“y prif Orchymyn”).
Mae erthyglau 5, 8 i 12 a 14 i 17 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r prif Orchymyn drwy addasu’r mesurau rheoli presennol i rwystro Ceratocystis fimbriata f. spp. platani Walter (sy’n achosi staen cancr planwydd) a Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr (sy’n achosi malltod castanwydd melys) rhag dod i mewn a lledaenu. Mae’r diwygiadau hefyd yn gweithredu mesurau rheoli penodol ym Mhenderfyniadau Gweithredu’r Comisiwn y cyfeirir atynt yn erthygl 3(1)(b) a Phenderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/67/EU sy’n diwygio Penderfyniad 2004/416/EC ar fesurau brys dros dro ynglŷn â ffrwythau sitrws penodol sy’n tarddu o Frasil (OJ Rhif L 31, 31.1.2013, t. 75).
Mae erthygl 3(1)(a) yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/253/EU sy’n diwygio Penderfyniad 2006/473/EC ynglŷn â chydnabod trydydd gwledydd penodol ac ardaloedd penodol mewn trydydd gwledydd fel rhai sy’n rhydd o Xanthomonas campestris (pob tras pathogenig i Citrus), Cercospora angolensis Carv. et Mendes a Guignardia citricarpa Kiely (pob tras pathogenig i Citrus) (OJ Rhif L 145, 31.5.2013, t. 35)
Mae erthyglau 3(1)(e), 4 a 6 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r diffiniad o “protected zone” yn erthygl 2(1) o’r prif Orchymyn, ac yn gwneud mân ddiwygiadau yn erthyglau 6(2) a 12(2) o’r Prif Orchymyn er mwyn cymryd i ystyriaeth Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 690/2008 sy’n cydnabod parthau gwarchodedig yn y Gymuned sy’n agored i risgiau penodol o ran iechyd planhigion (OJ Rhif L 193, 22.7.2008, t. 1).
Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth i wahardd person rhag glanio planhigion Pinus L. yng Nghymru, a fwriedir ar gyfer eu plannu, oni hysbyswyd arolygydd awdurdodedig mewn ysgrifen ymlaen llaw.
Mae erthygl 13 yn diwygio Atodlen 3 i’r Prif Orchymyn er mwyn gweithredu Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/219/EU sy’n cydnabod bod Serbia’n rhydd o Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckerman et Kotthof) Davis et al. (OJ Rhif L 114, 26.4.2012, t. 28).
Mae erthygl 3(1)(a), (b) ac (f) yn darparu ar gyfer darllen cyfeiriadau yn y prif Orchymyn at Benderfyniad y Comisiwn 2006/473/EC, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/756/EU, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU, Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 690/2008 fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.