xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
5 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Mawrth 2014
Yn dod i rym
28 Mawrth 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer—
(a)y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1); a
(b)y pwerau a roddwyd gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus bod cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn erthygl 3(1)(a), (b) ac (f) i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
1967 p. 8. Diwygiwyd adran 1(2) gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013/755 (Cy. 90), Atodlen 2, paragraff 43. Diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 8. Rhoddir y pwerau yn adrannau 2 a 3 i “competent authority”, a ddiffinnir yn adran 1(2), o ran Cymru, fel Gweinidogion Cymru.
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).