2014 Rhif 521 (Cy. 62)
Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer—

(a)
y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671; a
(b)
y pwerau a roddwyd gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus bod cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn erthygl 3(1)(a), (b) ac (f) i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.