- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”) fframwaith cyfreithiol y caiff llywodraeth leol gyflawni gwariant cyfalaf ynddo. Yng Nghymru, caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio’r gweithgarwch hwnnw drwy reoliadau. Cafodd darpariaeth o’r fath ei gwneud gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239) (“Rheoliadau 2003”) sydd wedi eu diwygio gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/1051 (Cy.108)) (“Rheoliadau 2007”) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/685 (Cy.67)) (“Rheoliadau 2010”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau 2003 (fel y’u diwygiwyd) ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2003 i ganiatáu i’r awdurdodau lleol ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a gafwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013 i wneud ôl-daliadau mewn perthynas â thâl cyfartal. At ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliadau 2003, tâl cyfartal yw swm y tâl y mae gan weithiwr cyflogedig i awdurdod lleol hawl i’w gael o’i gymharu â gweithiwr cyflogedig arall yn yr un sefydliad sy’n gwneud gwaith cyfartal, am gyfnodau sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â’r cyfnod cyn 1 Hydref 2010, yn unol ag adran 1 o Ddeddf Tâl Cyfartal 1970 (p.41).
Mewnosododd Rheoliadau 2007 reoliad 24A yn Rheoliadau 2003. Cafodd rheoliad 24A ei ddiwygio gan Reoliadau 2010. Darparodd Rheoliadau 2010 fod effaith rheoliad 24A yn dod i ben ar 1 Ebrill 2013. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 24A newydd yn Rheoliadau 2003, y bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Ebrill 2018. Mae’r rheoliad 24A newydd yn darparu nad oes angen i awdurdod lleol godi swm ar gyfrif refeniw mewn perthynas â thaliad sydd i’w wneud i swyddog neu weithiwr cyflogedig am waith a wnaed yn y gorffennol ac y cafodd y swyddog neu’r gweithiwr cyflogedig dâl anghyfartal amdano nes bod rhaid i’r awdurdod dalu’r swm hwnnw i’r swyddog neu’r gweithiwr cyflogedig. Mae hefyd yn darparu y bydd mantais rheoliad 24A yn gymwys hyd at 1 Ebrill 2023 pan nodir rhwymedigaeth ar neu cyn 1 Ebrill 2018.
Ystyriwyd Cod Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Adran Cyllid Llywodraeth Leol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (ffôn 02920825111).
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei baratoi yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1064) mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Adran Cyllid Llywodraeth Leol, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (ffôn 02920825111).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: