xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
27 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1).
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2014.
2. Mae’r darpariaethau a ganlyn ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn dod i rym ar 28 Chwefror 2014—
(a)adran 4(2) (mynychu cyfarfodydd o bell); a
(b)is-adran (5) o adran 155 (peidio â gwneud taliadau).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn i’w wneud o dan y Mesur.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 28 Chwefror 2014 adrannau 4 a 155(5) o’r Mesur.
Mae adran 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodau awdurdod lleol yn mynychu cyfarfodydd yr awdurdod o bell.
Mae adran 155(5) yn gwneud darpariaeth ynghylch ad-dalu taliadau a wnaed i aelodau o awdurdodau perthnasol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub Cymru).
Gweler hefyd adran 178(1) (cychwyn) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 11 Mai 2011 (drannoeth y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor) ac adran 178(2) ar gyfer darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2011 (diwedd y cyfnod o 2 fis a ddechreuodd ar y diwrnod y cymeradwywyd y Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 (2011 Rhif 2011 (Cy.221)(C.74)) a Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2012 (2012 Rhif 1187 (Cy. 145) (C. 40)M), a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. | |
---|---|---|---|
Adrannau 1 i 3 | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) | |
Adrannau 5 i 33 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adrannau 56 a 57 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adrannau 61 i 75 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 78 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adrannau 81 i 86 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adrannau 87(1) a (2) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adrannau 88 i 99 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 141 | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) | |
Adran 142 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 143 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 144 | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) | |
Adran 145 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 146 | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) | |
Adran 147 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 148 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 149 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 150 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 151 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 152 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 153 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 154 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 155(1) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 155(2), (3) a (4) | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 156 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 157 | (yn rhannol) | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) |
(i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 158 | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) | |
Adran 160 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adrannau 161 i 171 | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) | |
Adran 176(1) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Adran 176(2) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Atodlen 2 | 31 Awst 2011 | 2011 No. 2011 (Cy.221)(C.74) | |
Atodlen 3 | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) | |
Atodlen 4 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 30 Ebrill 2012 | 2012 No. 1187 (Cy.145)(C.40) |
Diwygiwyd adran 4(4) gan adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (2013 dccc 4) a diddymwyd adran 4(8) gan Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. Daeth y diwygiad a’r diddymiad i rym ar 30 Medi 2013.