xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim I bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
13 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Ionawr 2014
Yn dod i rym
5 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 116A(5), 116D(2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 5 Chwefror 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn lle rheoliad 4 rhodder—
4.—(1) Rhaid i’r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru gynnwys lleiafswm o 25 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae’n rhaid i o leiaf 3 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.
(2) Caiff awdurdod lleol gynnwys cwrs astudio ar lefel 1 NQF yn hytrach na chwrs ar lefel 2 NQF yn y cwricwlwm lleol ar gyfer ysgol uwchradd a gynhelir o fewn ei ardal os nad yw’r un cwrs ar gael ar lefel 2 NQF i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar.”;
(b)hepgorer rheoliadau 5 i 7; ac
(c)ym mhennawd rheoliad 11 hepgorer “a hysbysiadau’n hepgor yr hawl i gael adolygiad”.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
13th Ionawr 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mewnosododd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1) ddarpariaethau newydd yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002. Mae Rhan 7 yn ymwneud â’r cwricwlwm mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. O ganlyniad i Ran 1 o’r Mesur, mae’r cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru wedi ei ehangu i gynnwys hawlogaethau disgyblion mewn cwricwlwm lleol yng nghyfnod allweddol 4.
Gwnaeth Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) ddarpariaeth o ran llunio’r cwricwlwm lleol, y dewisiadau y caiff disgybl eu gwneud, penderfyniad y pennaeth o ran hawlogaeth, a phenderfyniad y pennaeth i ddileu hawlogaeth.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2009 fel bod rhaid i awdurdod lleol gynnwys lleiafswm o 25 o gyrsiau yn ei gwricwlwm lleol, y mae rhaid i 3 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol (rheoliad 2(a)). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diddymu rheoliadau 5 i 7 o Reoliadau 2009 fel nad oes gofyniad bellach i gyrsiau astudio yn y cwricwlwm lleol, na dewis y disgybl o gyrsiau cwricwlwm lleol, gael gwerth lleiafswm o bwyntiau (rheoliad 2(b)).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu’r geiriau diangen ym mhennawd rheoliad 11 o Reoliadau 2009 (rheoliad 2(c)).
2002 p.32. Mewnosodwyd adran 116A gan adran 4 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mewnosodwyd adran 116D gan adran 7 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
O.S. 2009/3256 (Cy.284), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy.101) ac O.S. 2010/2431 (Cy.209).