NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cyfrannu at weithredu, o ran Cymru, Erthygl 30 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli peryglon damweiniau mawr sy’n ymwneud â sylweddau peryglus (OJ Rhif L 197, 24.7.2012, tt.1-37 (“Cyfarwyddeb Seveso III”).

Mae Erthygl 30 o Gyfarwyddeb Seveso III yn ymdrin ag ansicrwydd mewn perthynas â dosbarthiad olewon tanwydd trwm drwy ychwanegu olewon tanwydd trwm at y tabl yn Rhan 2 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/82 (OJ Rhif L 10, 14.1.1997, t. 13) fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2003/105 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 345, 31.12.2003, t. 97) (“Cyfarwyddeb Seveso II”) o dan y pennawd “Cynhyrchion Petrolewm” sydd â maintioli cymwys o 2,500 o dunelli ar gyfer colofn 2 a 25,000 o dunelli ar gyfer colofn 3.

Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gweithredu Cyfarwyddeb Seveso II mewn perthynas â chynllunio defnydd tir.

Mae Rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy ychwanegu olewon tanwydd trwm at y rhestr o sylweddau a enwir yn Rhan A o Atodlen 1 i Reoliadau 1992. Effaith hyn yw bod sefydliad lle y mae olewon tanwydd trwm yn bresennol mewn maintioli sydd yn cyfateb i’r maintioli sydd yn cael ei reoli (2,500 o dunelli), neu sy’n fwy na hynny, yn dod yn ddarostyngedig i Reoliadau 1992.

Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn sicrhau nad effeithir ar gydsyniadau presennol ynglŷn â sylweddau peryglus a materion penodedig eraill gan y diwygio.

Gweithredir gweddill Erthygl 30 o Gyfarwyddeb Seveso III o ran Cymru gan Reoliadau Olew Tanwydd Trwm (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/162) sy’n diwygio Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999 (O.S. 1999/743) (“Rheoliadau 1999”) drwy ychwanegu olewon tanwydd trwm at y rhestr o sylweddau a enwir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 1999.

Mae asesiad effaith wedi ei lunio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.cymru.gov.uk