Search Legislation

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Datganiad o dâl

9.—(1Rhaid bod y nodiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) i (4) yn mynd gyda’r datganiad o gyfrifon sy’n ofynnol gan reoliad 8(1).

(2Mae’r nodyn cyntaf yn nodyn o wybodaeth cymhareb tâl y corff perthnasol (ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i gorff perthnasol sy’n gyd-bwyllgor).

(3Mae’r ail nodyn yn nodyn (ac eithrio mewn perthynas â phersonau y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt) o nifer y cyflogeion neu swyddogion yr heddlu yn y flwyddyn y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi yr oedd eu tâl yn dod o fewn pob un o’r bachau graddfa mewn lluosrifau o £5,000 gan ddechrau â £60,000.

(4Mae’r trydydd nodyn yn nodyn o’r tâl (wedi ei nodi’n unol â’r categorïau a restrir ym mharagraff (7)) a chyfraniad at bensiwn y person gan y corff perthnasol ar gyfer—

(i)cyflogeion hŷn, neu

(ii)swyddogion heddlu perthnasol,

mewn cysylltiad â’u cyflogaeth gan y corff perthnasol neu yn rhinwedd eu swydd fel swyddog yr heddlu, pa un ai ar sail barhaol neu dros dro.

(5Rhaid rhestru’r personau y mae eu tâl i gael ei nodi o dan baragraff (4) yn unigol a’u dynodi drwy enw’r swydd yn unig, ac eithrio bod yn rhaid dynodi’r personau hynny y mae eu cyflog yn £150,000 y flwyddyn neu fwy wrth eu henw hefyd.

(6Rhaid nodi’r tâl a’r cyfraniad at bensiwn a nodir o dan baragraff (4) mewn cysylltiad â’r flwyddyn y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi a’r flwyddyn flaenorol.

(7Y categorïau y mae paragraff (4) yn cyfeirio atynt yw—

(a)cyfanswm y cyflog, ffioedd neu lwfansau a delir i’r person neu a dderbynnir ganddo;

(b)cyfanswm y bonysau a delir i’r person neu a dderbynnir ganddo;

(c)cyfanswm y symiau a delir fel lwfans treuliau y mae modd codi treth incwm arnynt yn y Deyrnas Unedig ac a dalwyd i’r person neu y gallai’r person eu derbyn;

(d)cyfanswm unrhyw ddigollediad am golli cyflogaeth a dalwyd i’r person neu y gallai’r person ei dderbyn, ac unrhyw daliadau eraill a dalwyd i’r person neu y gallai’r person eu derbyn mewn cysylltiad â therfynu ei gyflogaeth gan y corff perthnasol, neu, yn achos swyddog heddlu perthnasol, cyfanswm unrhyw daliad a wnaed i swyddog heddlu perthnasol sy’n peidio â dal swydd cyn diwedd penodiad am dymor penodol;

(e)cyfanswm gwerth unrhyw fuddiannau yr amcangyfrifir bod y person wedi eu derbyn ac eithrio mewn arian nad yw’n dod o fewn is-baragraffau (a) i (d) uchod, sy’n enillion y person, ac a dderbynnir gan y person o ran ei gyflogaeth gan y corff perthnasol neu yn rhinwedd ei swydd fel swyddog heddlu; ac

(f)mewn perthynas â swyddogion heddlu perthnasol, unrhyw daliadau pa un a gawsant eu gwneud o dan Reoliadau’r Heddlu 2003(1) neu fel arall, nad ydynt yn dod o fewn (a) i (e) uchod.

(8Yn y rheoliad hwn—

mae “cyflogai” (“employee”) yn cynnwys aelod o’r corff perthnasol a deiliad swydd o dan y corff perthnasol, ond nid yw’n cynnwys person sy’n gynghorydd etholedig, ac mae “cyflogaeth” (“employment”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “cyflogai hŷn” (“senior employee”) yw cyflogai y mae ei gyflog yn £150,000 neu fwy y flwyddyn, neu gyflogai y mae ei gyflog yn £60,000 neu fwy y flwyddyn sy’n dod o fewn o leiaf un o’r categorïau canlynol—

(a)

person a gyflogir gan gorff perthnasol y mae adran 2 (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol) o Ddeddf 1989(2) yn gymwys iddo ac sydd—

(i)

wedi ei ddynodi’n bennaeth y gwasanaeth cyflogedig o dan adran 4 o’r Ddeddf honno(3);

(ii)

yn brif swyddog statudol o fewn ystyr “the statutory chief officers” yn adran 2(6) o’r Ddeddf honno; neu

(iii)

yn brif swyddog anstatudol o fewn ystyr “non-statutory chief officer” yn adran 2(7) o’r Ddeddf honno;

(b)

y person sy’n bennaeth staff unrhyw gorff perthnasol nad yw adran 4 o Ddeddf 1989 yn gymwys iddo; neu

(c)

person a chanddo gyfrifoldeb dros reoli’r corff perthnasol i’r graddau bod pŵer gan y person i gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau’r corff (yn benodol y gweithgareddau sy’n ymwneud â gwario arian), pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill;

ystyr “cyfraniad at bensiwn y person” (“contribution to the person’s pension”) yw swm sydd i’w gyfrifo fel a ganlyn—

(a)

mewn perthynas â chyfraniadau at y cynllun pensiwn perthnasol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(4), cyfradd gyffredin cyfraniad cyflogwr wedi’i phennu mewn tystysgrif cyfraddau ac addasiadau a baratowyd o dan reoliad 62 (prisiadau actiwaraidd o gronfeydd pensiwn) o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013(5), sef y swm sy’n briodol i’r corff hwnnw wedi ei gyfrifo yn unol â’r dystysgrif a rheoliad 67 (cyfraniadau’r cyflogwr) o’r Rheoliadau hynny, wedi ei luosi â chyflog pensiynadwy’r person;

(b)

mewn perthynas â chyfraniadau at gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd o dan Ddeddfau Gwasanaethau Tân 1947 a 1959(6), canran cyfanswm y cyflog pensiynadwy wedi ei gyfrifo at ddibenion paragraff G2(3) a (4) o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(7), wedi ei luosi â chyflog pensiynadwy’r person;

(c)

mewn perthynas â chyfraniadau at gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(8), canran cyfanswm y cyflog pensiynadwy wedi ei gyfrifo at ddibenion paragraffau (2) a (3) o reol 2 o Ran 13 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(9), wedi ei luosi â chyflog pensiynadwy’r person;

(d)

mewn perthynas â chyfraniadau at gynlluniau pensiwn yr heddlu a sefydlwyd o dan Reoliadau Pensiynau’r Heddlu 1987(10) neu Reoliadau Pensiynau’r Heddlu 2006(11), canran y cyflog pensiynadwy a bennwyd yn rheoliad 5(1) (cyfraniadau) o Reoliadau Cronfa Bensiwn yr Heddlu 2007(12), wedi ei luosi â chyflog pensiynadwy’r person;

ystyr “gwybodaeth cymhareb tâl y corff perthnasol” (“relevant body’s remuneration ratio information”) yw—

(a)

tâl prif weithredwr y corff yn ystod y flwyddyn y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi;

(b)

tâl canolrifol holl gyflogeion y corff yn ystod y flwyddyn y mae’r cyfrifon yn berthnasol iddi; ac

(c)

cymhareb y swm yn is-baragraff (a) i’r swm yn is-baragraff (b);

ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw—

(a)

yn achos corff perthnasol sy’n gyngor sir neu’n gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod tân ac achub neu awdurdod Parc Cenedlaethol, pennaeth gwasanaeth cyflogedig y corff a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf 1989;

(b)

yn achos corff perthnasol sy’n brif gwnstabl, y prif gwnstabl;

(c)

yn achos corff perthnasol sy’n gomisiynydd heddlu a throsedd, y prif weithredwr a benodir gan y comisiynydd o dan Atodlen 1 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(13);

(d)

yn achos unrhyw gorff perthnasol arall, y cyflogai uchaf ei radd;

ystyr “swyddog heddlu hŷn” (“swyddog heddlu hŷn”) yw aelod o’r heddlu sy’n dal rheng uwch na rheng uwcharolygydd;

ystyr “swyddog heddlu perthnasol” (“relevant police officer”) yw—

(a)

mewn perthynas â heddlu a gynhelir o dan adran 2 (cynnal heddluoedd) o Ddeddf yr Heddlu 1996(14), y prif gwnstabl, ac

(b)

unrhyw swyddog heddlu hŷn arall y mae ei gyflog yn £150,000 y flwyddyn neu fwy; ac

ystyr “tâl” (“remuneration”) yw pob swm a dalwyd i berson neu y gallai’r person ei dderbyn, ac mae’n cynnwys symiau sy’n ddyledus fel lwfans treuliau (i’r graddau y mae modd codi treth incwm ar y symiau hynny yn y Deyrnas Unedig), ac amcangyfrif o werth ariannol unrhyw fuddiannau eraill a dderbyniwyd gan gyflogai ac eithrio mewn arian.

(9Mae’r symiau £60,000 a £150,000 yn y rheoliad hwn i’w gostwng pro rata ar gyfer cyflogai neu swyddog a gyflogir ar sail dros dro neu ar sail ran-amser, neu sydd wedi ei gymryd ymlaen felly.

(1)

O.S. 2003/527; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2006/3449, 2011/3026, a 2012/192 a 2712.

(2)

1989 p. 42. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 95; O.S. 2002/808 (Cy. 89); Deddf Plant 2004 (p. 31), Atodlen 2, paragraff 3; Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), Atodlen 2; Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p 28), adran 203(1); Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20), adrannau 30(1) a (2) a 146(1); O.S. 2010/1158; Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4), adran 21; a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 5, paragraff 57.

(3)

Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p. 20), Atodlen 6, paragraff 81(1) a (2) a chan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13), Atodlen 19, paragraffau 199 a 201.

(4)

1972 p. 11; diwygiwyd adran 7 gan Ddeddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 (p. 25), Atodlen 8, paragraffau 6 ac 8.

(6)

1947 p. 41 a 1959 p. 44. Diddymwyd y ddwy Ddeddf hyn gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) a oedd yn cynnwys arbedion mewn cysylltiad â chynlluniau pensiwn a sefydlwyd oddi tanynt.

(10)

O.S. 1987/257 y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

O.S. 2006/3415 y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 2007/1932, a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/1887; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(14)

1996 p. 16. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (p. 13), Atodlen 16, paragraffau 1 a 4.

Back to top

Options/Help