2014 rhif 3222 (Cy. 327)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd yn y Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno3.