NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”), a gwnaed y Gorchymyn hwn o dan adrannau 9 ac 16 o’r Ddeddf.

Mae adran 9 o’r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o is-ddeddfau y caiff y mathau perthnasol o awdurdodau eu gwneud heb eu cadarnhau. Mae erthygl 2 yn diwygio Tabl 1 yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Mae adran 16 o’r Ddeddf yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig.

Mae’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau y caiff is-ddeddfau oddi tanynt ddarparu ar gyfer hysbysiadau cosbau penodedig. Mae erthygl 3 yn diwygio Tabl 2 yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Democratiaeth, Moeseg a Phartneriaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.