xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwrnod penodedig

2.  12 Rhagfyr 2014 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009—

(a)adrannau 116 i 128 (dynodi parthau cadwraeth morol; dyletswyddau sy’n ymwneud â rhwydwaith cadwraeth a dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus);

(b)adrannau 134 i 148 (gorchmynion ar gyfer gwarchod parthau cadwraeth morol yng Nghymru; gwrandawiadau; troseddau; cosbau ariannol penodedig; darpariaethau amrywiol ac atodol; a safleoedd cadwraeth eraill) ac Atodlenni 10 (darpariaethau pellach ynghylch cosbau ariannol penodedig o dan adran 142), 11 (diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol), 12 (darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol) a 13 (ffiniau morol safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gwarchodfeydd natur cenedlaethol); ac

(c)Rhan 3 (gwarchod natur) o Atodlen 22 (diddymiadau) ac adran 321 (diddymiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.