xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym Bennod 1 o Ran 5 o Ddeddf 2009 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharthau cadwraeth morol yng Nghymru (adrannau 116 i 128 a 134 i 147) a Phennod 2 o’r Rhan honno sy’n ymwneud â safleoedd cadwraeth eraill (adran 148). Mae erthygl 2 yn dwyn i rym yr Atodlenni cysylltiedig i Ran 5 o Ddeddf 2009 gan gynnwys diwygiadau canlyniadol, darpariaethau trosiannol a diddymiadau.
Mae erthygl 3 yn dirymu is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i gychwyn Rhan 5 o Ddeddf 2009.