Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
12 Tachwedd 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14th Tachwedd 2014
Yn dod i rym
9 Rhagfyr 2014
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 a daw i rym ar 9 Rhagfyr 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod lleol(3) yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4).
2.—(1) Yn adran 26(5) o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr), yn lle “2004” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “2017”(6).
(2) Yn adran 35(7) o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle “2004”, rhodder “2017”.
3. Yn unol â hynny, mae cyfnod swydd cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) neu adran 35(2A) o Ddeddf 1972 wedi ei estyn gan un flwyddyn.
4. Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012(8) wedi ei ddirymu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, wneud darpariaeth drwy Orchymyn i newid y blynyddoedd pryd y mae etholiadau cyffredin cynghorwyr unrhyw awdurdod lleol (neu awdurdodau lleol) penodedig i’w cynnal.
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud o dan adrannau 87, 105(2) a (3) a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, yn darparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru yn cael eu cynnal yn 2017 yn lle 2016. Mae’n gwneud hynny drwy roi “2017” yn y mannau priodol yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n pennu blynyddoedd etholiadau cyffredin cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012(9). Darparodd y Gorchymyn hwnnw ar gyfer cynnal etholiadau cyffredin cynghorwyr i’r cyngor sir ac i’r cynghorau cymuned yn Sir Ynys Môn yn 2013, yn lle 2012, a chynnal etholiadau dilynol bob pedair blynedd ar ôl 2013. Effaith y Gorchymyn hwnnw, ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn, yw y bydd yr etholiadau cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr yn Sir Ynys Môn yn cael eu cynnal yn 2017. Gan fod etholiadau cyffredin 2013 wedi eu cynnal a chan fod y Gorchymyn hwn yn rhoi “2017” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, nid oes angen Gorchymyn 2012 mwyach a gellir ei ddirymu.
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod cyfnod swydd cyfredol cynghorwyr presennol a etholwyd i gynghorau sir, i gynghorau bwrdeistref sirol ac i gynghorau cymuned yng Nghymru wedi ei estyn gan un flwyddyn yn unol â hynny.
Mae’r cynllun ar gyfer etholiadau cyffredin cynghorwyr cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru, fel y’i nodir yn adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn aros yn ddigyfnewid. Mae’r cynllun ar gyfer etholiadau cyffredin cynghorwyr cymuned cynghorau cymuned yng Nghymru, fel y’i nodir yn adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, hefyd yn aros yn ddigyfnewid.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2000 p. 22. Diwygiwyd adran 106(1) gan baragraff 1 o Atodlen 25(4) i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Mae adran 84(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn diffinio “local authority” fel cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned. Mae’r diffiniad hwn yn gymwys at ddibenion adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, y gwneir y Gorchymyn hwn odano.
Diwygiwyd adran 26 gan adran 4(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a chan erthygl 2(1) o Orchymyn Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3540 (Cy. 287)).
Ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn, mae Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu ar gyfer cynnal etholiad cyffredin cynghorwyr yn 2004 a phob pedair blynedd wedi hynny, ac eithrio’r rheini yn Sir Ynys Môn (gweler Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012 (O.S. 2012/686 (Cy. 94)).
Diwygiwyd adran 35 gan adran 206 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) a pharagraff 12 o Atodlen 8 iddi, gan adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19), a chan erthygl 2(2) o Orchymyn Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3540 (Cy. 287)).