xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 rhif 2830 (Cy. 286) (C. 130)

Tai, Cymru

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2014

Gwnaed

20 Hydref 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 185(3) ac (8) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2014.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Cychwyn a chymhwyso

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2014 i rym o ran Cymru ar 21 Hydref 2014—

(a)adran 94 (sail newydd ar gyfer troseddau difrifol neu dorri gwaharddiadau etc) ac Atodlen 3 (Atodlen i gael ei mewnosod fel Atodlen 2A i Ddeddf Tai 1985);

(b)adran 95 (gofynion hysbysu ar gyfer sail newydd);

(c)adran 96 (gofynion adolygu ar gyfer sail newydd);

(d)adran 97 (sail newydd gyfatebol a gofynion hysbysu ar gyfer tenantiaethau sicr);

(e)adran 100(2) a (3) (cyfyngiadau pan fo achosion meddiannu newydd yn mynd rhagddynt etc);

(f)adran 181(1) (diwygiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir ym mharagraff (g) isod; a

(g)yn Atodlen 11 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

(i)paragraff 2;

(ii)paragraff 7;

(iii)paragraff 8;

(iv)paragraff 9;

(v)paragraff 10;

(vi)paragraff 13;

(vii)paragraff 14;

(viii)paragraff 15(4)(a) ac (c);

(ix)paragraff 16;

(x)paragraff 18; a

(xi)paragraff 19.

Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â dwyn adrannau 94 a 97 i rym yng Nghymru

3.  Mewn perthynas â dwyn adrannau 94 a 97 (sail absoliwt ar gyfer meddiannu) i rym yng Nghymru, ni fodlonir amod 5 yn adran 84A(7) o Ddeddf Tai 1985(2) ac amod 5 yn Sail 7A o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988(3) ond pan gaiff y drosedd o dan—

(a)adran 80(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(4) (torri hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol), neu

(b)adran 82(8) o’r Ddeddf honno (torri gorchymyn llys i atal niwsans statudol ac ati),

ei chyflawni gan y tenant, neu berson sy’n preswylio yn y tŷ annedd neu’n ymweld ag ef, ar 20 Hydref 2014, neu wedi hynny.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dod ag amryw o ddarpariaethau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (“Deddf 2014”) i rym yng Nghymru.

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym, o ran Cymru, ddarpariaethau sy’n ymwneud â sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol (adrannau 94 – 97, 100(2) a (3) o Ddeddf 2014, ac Atodlen 3 iddi) a diwygiadau canlyniadol cysylltiedig, yn ogystal â diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Rhannau 1, 2 a 4 o Ddeddf 2014.

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â dwyn adrannau 94 a 97 o Ddeddf 2014 i rym er mwyn sicrhau na fodlonir amod 5 yn y sail absoliwt newydd ar gyfer meddiannu ond pan gaiff y drosedd o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ei chyflawni ar 20 Hydref 2014, neu wedi hynny.

NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2014 wedi eu dwyn i rym yn llawn (oni nodir fel arall) gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.

Adran 96 (yn rhannol)

(Lloegr yn unig)

17 Medi 20142014/2454
Adran 98 (Lloegr yn unig)13 Mai 20142014/949
Adran 98 (Cymru yn unig)13 Mai 20142014/1241 (W.129)
Adran 9913 Mai 20142014/949
Adran 100(1) (Lloegr yn unig)13 Mai 20142014/949
Adran 100(1) (Cymru yn unig)13 Mai 20142014/1241 (W.129)
Adran 10113 Mai 20142014/949
Adran 104 (yn rhannol)13 Mai 20142014/949
Adrannau 105 i 10713 Mai 20142014/949
Adrannau 108 i 11114 Gorffennaf 20142014/949
Adran 11213 Mai 20142014/949
Adrannau 116 i 1181 Medi 20142014/2125
Adran 11913 Mai 20142014/949
Adrannau 120 a 12116 Mehefin 20142014/949
Adrannau 123 i 13013 Mai 20142014/949
Adrannau 131 a 1321 Medi 20142014/2125
Adran 133 (yn rhannol)1 Medi 20142014/2125
Adran 1341 Medi 20142014/2125
Adran 1361 Hydref 20142014/2454
Adrannau 138 a 1391 Hydref 20142014/2454
Adran 14021 Gorffennaf 20142014/1916
Adrannau 141 a 14213 Mai 20142014/949
Adran 14320 Mawrth 20142014/630
Adrannau 144 i 14613 Mai 20142014/949
Adran 14714 Mawrth 20142014/630
Adran 148 (yn rhannol)13 Mai 20142014/949
31 Gorffennaf 20142014/1916
1 Ebrill 20152014/1916
Adran 1492 Mehefin 20142014/1226
Adrannau 152 a 15313 Mai 20142014/949
Adrannau 155 i 15921 Gorffennaf 20142014/1916
Adrannau 161 i 16721 Gorffennaf 20142014/1916
Adrannau 169 i 17321 Gorffennaf 20142014/1916
Adran 1746 Hydref 20142014/2454
Adran 17613 Mai 20142014/949
Adran 17813 Mai 20142014/949
Adran 1791 Mehefin 20142014/949
Adran 181(1) (yn rhannol)20 Mawrth 20142014/630
13 Mai 20142014/949
21 Gorffennaf 20142014/1916
1 Medi 20142014/2125
1 Hydref 20142014/2454
Adran 181(1) (yn rhannol) (Lloegr yn unig)13 Mai 20142014/949
Adran 181(1) (yn rhannol) (Cymru yn unig)13 Mai 20142014/1241 (W.129)
Atodlen 4 (yn rhannol)13 Mai 20142014/949
Atodlen 814 Mawrth 20142014/630
Atodlen 9 (yn rhannol)13 Mai 20142014/949
31 Gorffennaf 20142014/1916
1 Ebrill 20152014/1916
Atodlen 1013 Mai 20142014/949
Atodlen 11 (yn rhannol)20 Mawrth 20142014/630
13 Mai 20142014/949
21 Gorffennaf 20142014/1916
1 Medi 20142014/2125
1 Hydref 20142014/2454
Atodlen 11 (yn rhannol) (Lloegr yn unig)13 Mai 20142014/949
Atodlen 11 (yn rhannol) (Cymru yn unig)13 Mai 20142014/1241 (W.129)
(2)

1985 p. 68. Mae adran 84A wedi ei mewnosod yn rhagolygol gan adran 94(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

(3)

1988 p. 50. Mae Sail 7A o Ran 1 o Atodlen 2 wedi ei mewnosod yn rhagolygol gan adran 97(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.