xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
14 Hydref 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 241(3) o Ddeddf Cynllunio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio 2008 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2014.
2. Daw adran 198 o Ddeddf Cynllunio 2008 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) i rym o ran Cymru ar 28 Tachwedd 2014.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Hydref 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 28 Tachwedd 2014, adran 198 o Ddeddf Cynllunio 2008 (apelau yn ymwneud â hen ganiatadau mwynau), mewn perthynas â Chymru, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cynllunio 2008 wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
| Darpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
| Paragraffau 24 i 27 o Atodlen 1 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) | 1 Hydref 2009 | 2009/2573 (C.110) |
| Adrannau 5 i 12 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 13 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 14 yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2011 | 2011/705 (C.29) |
| Adran 14 yn rhannol (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru, Lloegr ac i’r graddau a bennir, o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| 1 Hydref 2011 | 2011/2054 (C.75) | |
| Adrannau 15 i 20 a 22 i 26 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adrannau 21 a 31 i 35 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adran 29 o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2011 | 2011/705 (C.29) |
| Adran 30 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2011 | 2011/2054 (C.75) |
| Adran 36 ac Atodlen 2 o ran Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adrannau 37 i 54 a 56 i 59 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
| Adrannau 55, 60 i 119 ac Atodlenni 3 a 4, adrannau 120 i 121 ac Atodlen 5, adrannau 122 i 132, 134 a 135 i 138 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adrannau 133 a 139 i 149 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adrannau 150 i 152, 154 i 159, 160 i 173 a 174 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adran 153 ac Atodlen 6 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr ac yn rhannol o ran yr Alban | 1 Hydref 2011 | 2011/2054 (C.75) |
| Adran 175(1) i (2) a (4) i (8) (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 175 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adran 176(1) i (3) a (5) i (9) yn rhannol o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 176 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran yr Alban | 1 Mawrth 2010 | 2010/101 (C.11) |
| Adran 177 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 178 o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adrannau 179 a 180 i 182 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adrannau 183 a 185 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 184 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 185 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru | 8 Awst 2014 | 2014/1769 (W.181) (C.76) |
| Adran 187 a pharagraffau 1, 2(1) a (2), 3(1), (2) a (4) a 4 i 6 o Atodlen 7 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Paragraffau 2(3) a (4) a 3(3) o Atodlen 7 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 188 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 23 Mehefin 2009 | 2009/1303 (C.70) |
| Adran 188 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru | 30 Ebrill 2012 | 2012/802 (W.111) (C.20) |
| Adrannau 189 a 190(4) (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) |
| Adran 190(1) i (3), (5) a (6) o ran Cymru a Lloegr | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
| Adran 191(1) a (3) (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Lloegr ac adran 191(2) (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 192 ac Atodlen 8 ac adran 193 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2012 | 2012/601 (C.13) |
| Adran 194(1) a pharagraffau 1 i 4 a 6 o Atodlen 9, adran 195, adran 196 a pharagraffau 1 a 3 i 6 a 10 i 14 o Atodlen 10 yn rhannol, (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 197 ac Atodlen 11, adran 198 ac adran 199 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 197 ac Atodlen 11 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru | 30 Ebrill 2012 | 2012/802 (W.111) (C.20) |
| Adran 199 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru | 8 Awst 2014 | 2014/1769 (W.181) (C.76) |
| Adran 200 o ran Lloegr | 1 Hydref 2009 | 2009/2260 (C.98) |
| Adran 206 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 206 (i’r graddau nad oedd eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) |
| Adrannau 211(7) a 224(1) a (4) (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 224(3) | 6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) |
| Adran 236 a pharagraff 1 o Atodlen 12 o ran yr Alban | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| Adran 238 ac Atodlen 13 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru a Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| 6 Ebrill 2010 | 2010/566 (C.39) | |
| Adran 238 ac Atodlen 13 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Lloegr | 6 Ebrill 2009 | 2009/400 (C.22) |
| 23 Mehefin 2009 | 2009/1303 (C.70) | |
| 6 Ebrill 2012 | 2012/601 (C.13) | |
| Adran 238 ac Atodlen 13 (i’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym) yn rhannol o ran Cymru | 30 Ebrill 2012 | 2012/802 (W.111) (C.20) |
Gweler hefyd adran 241(1) o Ddeddf Cynllunio 2008 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 26 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).