Personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai3.

Mae’r dosbarthiadau o bersonau a ganlyn sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn bersonau sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996—

(a)

Dosbarth A – person a gofnodir fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o’r Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid ac sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(b)

Dosbarth B – person—

(i)

sydd â chaniatâd eithriadol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd y tu allan i ddarpariaethau’r Rheolau Mewnfudo; a

(ii)

nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)

Dosbarth C – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac nad yw ei ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod, ac eithrio person—

(i)

y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr y person;

(ii)

sydd wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i’r Deyrnas Unedig neu’r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad mewn perthynas â’r person, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; a

(iii)

y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr, yn dal yn fyw;

(d)

Dosbarth D – person sydd ag amddiffyniad dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo; ac

(e)

Dosbarth E – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig fel dinesydd perthnasol o Affganistan o dan baragraff 276BA1 o’r Rheolau Mewnfudo.