Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Medi 2014.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 20142.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1)—
(a)
dilëer y diffiniad o “cnydau âr” (“arable crops”);
(b)
yn y diffiniad o “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”), ar ôl “parsel cyfeirio” pan fo’n ymddangos am y tro cyntaf mewnosoder “, neu ardal o dir o fewn parsel cyfeirio,”;
(c)
“ystyr “llystyfiant ucheldirol lled-naturiol” (“semi-natural upland vegetation”) yw’r rhywogaethau hynny a restrir yn yr Atodlen;”.
(3)
Yn rheoliad 3(2)—
(a)
“(c)
y mae 50% neu fwy ohono’n llystyfiant ucheldirol lled-naturiol, neu’n gerrig brig a llystyfiant ucheldirol lled-naturiol a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori garw.”
(b)
dilëer paragraff (d) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”);
(c)
dilëer paragraff (e) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”);
(d)
yn y diffiniad o “yr ardal dan anfantais ddifrifol” (“the severely disadvantaged area”), ar ôl “tir” rhodder “nad yw’n rhostir ac”.
(4)
Yn lle’r Atodlen (Rhywogaethau Amaethyddol Wedi eu Gwella) rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
YR ATODLENRhywogaethau o lystyfiant ucheldirol lled-naturiol
Maeswellt | (Agrostis spp.) |
Peisgwellt | (Festuca spp.) |
Brigwellt main | (Deschampsia flexuosa) |
Llwydwellt y calch | (Sesleria albicans) |
Glaswellt y gweunydd | (Molinia caerulea) |
Cawn du | (Nardus stricta) |
Rhedyn ungoes | (Pteridium aquilinum) |
Grug | (Calluna vulgaris; Erica spp.) |
Llus | (Vaccinium myrtillus) |
Creiglus | (Empetrum nigrum) |
Eithin | (Ulex spp.) |
Plu’r gweunydd | (Eriophorum spp.) |
Clwbfrwyn y mawn | (Trichophorum cespitosum) |
Brwyn troellgorun | (Juncus squarrosus) |
Migwyn | (Sphagnum spp.) |
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1835) (Cy. 189) (“y Prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2(1) o’r Prif Reoliadau drwy ddileu’r diffiniad o gnydau âr, diwygio’r diffiniad o ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro a mewnosod diffiniad o lystyfiant ucheldirol lled-naturiol.
Mae rheoliad 2(3) yn diwygio’r diffiniadau o rostir ac ardal dan anfantais ddifrifol yn y Prif Reoliadau.
Mae rheoliad 2(4) yn rhoi Atodlen newydd sydd â rhestr o rywogaethau o lystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn lle Atodlen y Prif Reoliadau.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol o effeithiau’r Rheoliadau hyn ar gostau busnes, mewn perthynas â busnesau fferm yng Nghymru, wedi ei baratoi mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.