Search Legislation

Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 2367 (Cy. 230)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

5 Medi 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Medi 2014

Yn dod i rym

26 Medi 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Medi 2014.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014

2.—(1Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)dilëer y diffiniad o “cnydau âr” (“arable crops”);

(b)yn y diffiniad o “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”), ar ôl “parsel cyfeirio” pan fo’n ymddangos am y tro cyntaf mewnosoder “, neu ardal o dir o fewn parsel cyfeirio,”;

(c)ar ôl y diffiniad o “dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro” (“provisional payment region classification”) mewnosoder—

ystyr “llystyfiant ucheldirol lled-naturiol” (“semi-natural upland vegetation”) yw’r rhywogaethau hynny a restrir yn yr Atodlen;.

(3Yn rheoliad 3(2)—

(a)yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”) rhodder—

(c)y mae 50% neu fwy ohono’n llystyfiant ucheldirol lled-naturiol, neu’n gerrig brig a llystyfiant ucheldirol lled-naturiol a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer pori garw.

(b)dilëer paragraff (d) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”);

(c)dilëer paragraff (e) o’r diffiniad o “rhostir” (“moorland”);

(d)yn y diffiniad o “yr ardal dan anfantais ddifrifol” (“the severely disadvantaged area”), ar ôl “tir” rhodder “nad yw’n rhostir ac”.

(4Yn lle’r Atodlen (Rhywogaethau Amaethyddol Wedi eu Gwella) rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rebecca Evans

Y Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd, o dan awdurdod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

5 Medi 2014

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENRhywogaethau o lystyfiant ucheldirol lled-naturiol

Maeswellt(Agrostis spp.)
Peisgwellt(Festuca spp.)
Brigwellt main(Deschampsia flexuosa)
Llwydwellt y calch(Sesleria albicans)
Glaswellt y gweunydd(Molinia caerulea)
Cawn du(Nardus stricta)
Rhedyn ungoes(Pteridium aquilinum)
Grug(Calluna vulgaris; Erica spp.)
Llus(Vaccinium myrtillus)
Creiglus(Empetrum nigrum)
Eithin(Ulex spp.)
Plu’r gweunydd(Eriophorum spp.)
Clwbfrwyn y mawn(Trichophorum cespitosum)
Brwyn troellgorun(Juncus squarrosus)
Migwyn(Sphagnum spp.)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1835) (Cy. 189) (“y Prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2(1) o’r Prif Reoliadau drwy ddileu’r diffiniad o gnydau âr, diwygio’r diffiniad o ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro a mewnosod diffiniad o lystyfiant ucheldirol lled-naturiol.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio’r diffiniadau o rostir ac ardal dan anfantais ddifrifol yn y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 2(4) yn rhoi Atodlen newydd sydd â rhestr o rywogaethau o lystyfiant ucheldirol lled-naturiol yn lle Atodlen y Prif Reoliadau.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol o effeithiau’r Rheoliadau hyn ar gostau busnes, mewn perthynas â busnesau fferm yng Nghymru, wedi ei baratoi mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources