Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys cig a chynhwysion eraill7.
(1)
Rhaid i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ddarparu’r manylion sy’n ofynnol o dan Erthygl 9(1)(d) (swm cynhwysion penodol), fel y’i darllenir gydag Erthygl 22 ac Atodiad VIII, o ran y cynhwysion yn y bwyd sy’n gig.
(2)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd (heblaw bwyd a bennir yn Atodlen 3) a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu arlwywr mawr, sy’n cynnwys cig ac unrhyw gynhwysyn arall ac sydd—
(a)
heb ei ragbecynnu,
(b)
wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu
(c)
wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.
(3)
Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd a baratowyd i fod yn barod i’w fwyta gan ddefnyddiwr terfynol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol gan arlwywyr mawr (boed mewn sefydliad arlwyo mawr lle y gwerthir yn bersonol i ddefnyddiwr terfynol ynteu drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell) fel rhan o’i fusnes fel arlwywr mawr.
(4)
Mae swm y cig sydd i’w bennu yn y manylion a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w bennu drwy gymryd i ystyriaeth y darpariaethau ynghylch cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII, gan gynnwys unrhyw addasiad tuag i lawr sy’n angenrheidiol mewn achos lle y mae cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y bwyd yn fwy na’r gwerthoedd a ddangosir yn y tabl yn y pwynt hwnnw.
(5)
Rhaid i’r manylion ymddangos—
(a)
ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu
(b)
ar hysbysiad, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.
(6)
Nid yw paragraff (5) yn gymwys yn achos cynnig i werthu a wneir drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell.
(7)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau o famaliaid ac adar y cydnabyddir eu bod yn addas i’w bwyta gan bobl gyda’r feinwe y mae’n ei chynnwys yn naturiol neu feinwe ymlynol ond nid yw’n cynnwys cig a wahenir yn fecanyddol; ac