Bwydydd nad ydynt wedi eu rhagbecynnu etc. sy’n cynnwys sylwedd neu gynnyrch alergenaidd etc.

5.—(1Caniateir i weithredwr busnes bwyd sy’n cynnig gwerthu bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo roi ar gael y manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) (labelu sylweddau neu gynhyrchion penodol sy’n peri alergeddau neu anoddefeddau) ynglŷn â’r bwyd hwnnw drwy unrhyw ddull y mae’r gweithredwr hwnnw’n ei ddewis, gan gynnwys ar lafar, yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(2Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd perthnasol a gynigir i’w werthu i ddefnyddiwr terfynol neu i arlwywr mawr ac eithrio drwy gyfrwng cyfathrebu o hirbell ac sydd—

(a)heb ei ragbecynnu,

(b)wedi ei becynnu ar y fangre lle y gwerthir y bwyd ar gais y defnyddiwr, neu

(c)wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol.

(3Pan fo gweithredwr busnes bwyd yn bwriadu rhoi’r manylion a bennir yn Erthygl 9(1)(c) ynglŷn â bwyd perthnasol ar gael ar lafar, a bod sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II yn cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn neu gymorth prosesu wrth weithgynhyrchu neu baratoi’r bwyd, rhaid i’r gweithredwr ddangos bod modd sicrhau manylion y sylwedd neu’r cynnyrch hwnnw drwy ofyn i aelod o’r staff.

(4Rhaid i’r dangosiad a grybwyllir ym mharagraff (3) gael ei roi—

(a)ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd, neu

(b)ar hysbysiad, bwydlen, tocyn neu label sy’n glir i’w weld gan brynwr arfaethedig yn y man lle y mae’r prynwr arfaethedig yn dewis y bwyd hwnnw.

(5O ran bwyd perthnasol y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r manylion yn Erthygl 9(1)(c) a roddwyd ar gael gan weithredwr busnes bwyd gael eu rhoi ar gael â chyfeiriad clir at enw’r sylwedd neu’r cynnyrch a restrir yn Atodiad II—

(a)pan fo’r cynhwysyn neu’r cymorth prosesu perthnasol yn deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, a

(b)pan fo’r manylion yn cael eu rhoi ar gael ac eithrio drwy ddull y darperir ar ei gyfer yn FIC.

(6Yn y rheoliad hwn ystyr “bwyd perthnasol” (“relevant food”) yw bwyd y mae cynhwysyn neu gymorth prosesu a restrir yn Atodiad II, neu sy’n deillio o sylwedd neu gynnyrch a restrir yn Atodiad II, wedi eu defnyddio wrth ei weithgynhyrchu neu ei baratoi ac yn dal yn bresennol yn y cynnyrch gorffenedig (hyd yn oed os yw mewn ffurf a addaswyd).