Rhanddirymiad ynglŷn â briwgig4.
(1)
Nid yw’r gofynion a nodir ym mhwynt 1 o Ran B o Atodiad VI yn atal briwgig nad yw’n cydymffurfio â’r gofynion hyn rhag cael ei osod ar y farchnad gan ddefnyddio dynodiad briwgig os bydd y marc cenedlaethol yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn ymddangos ar y label.
(2)
Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gymwys i ffurf y marc cenedlaethol.
(3)
Ym mharagraff (1)—
mae i “ar y label” yr un ystyr ag sydd i “on the labelling” ym mhwynt 2 o Ran B o Atodiad VI fel y’i darllenir gyda’r diffiniad o “labelling” yn Erthygl 2(2)(j);
mae “ei osod ar y farchnad” (“placed on the market”) i’w ddehongli fel pe bai’n cymryd i ystyriaeth ystyr “placing on their national market” fel y’i defnyddir ym mhwynt 3 o Ran B o Atodiad VI.