Dehongli2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “a gynigir i’w werthu” yr un ystyr a roddir i “offered for sale” yn Erthygl 44 ac mae “cynnig gwerthu” (“offers for sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” yn Erthygl 2(2)(d) ac mae “arlwywyr mawr” (“mass caterers”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod bwyd” (“foodauthority”) yw—

(a)

cyngor sir;

(b)

cyngor bwrdeistref sirol;

mae i “bwyd wedi ei ragbecynnu” yr ystyr a roddir i “prepacked food” yn Erthygl 2(2)(e);

ystyr “Cyfarwyddeb 1999/2/EC” (“Directive 1999/2/EC”) yw Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ar fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi eu trin ag ymbelydredd ïoneiddio12;

mae i “cyfrwng cyfathrebu o hirbell” yr ystyr a roddir i “means of distance communication” yn Erthygl 2(2)(u);

mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

mae i “gweithredwr busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” ym mhwynt 3 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

mae i “parod i’w fwyta” yr un ystyr a roddir i “ready for consumption” yn Erthygl 2(2)(d); F1...

mae i “wedi ei ragbecynnu i’w werthu’n uniongyrchol” yr un ystyr a roddir i “prepacked for direct sale” yn Erthygl 2(2)(e).

F2ystyr “Rheoliad 828/2014” (“Regulation 828/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo; ac

(2)

Ac eithrio fel y darperir fel arall—

(a)

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl yn gyfeiriad at Erthygl yn FIC, a

(b)

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad yn gyfeiriad at Atodiad i FIC.

(3)

Mae unrhyw gyfeiriad at FIC, neu ddarpariaeth yn FIC (gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo) F3neu at Reoliad 828/2014 neu ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014, mewn darpariaeth yn y Rheoliadau hyn a restrir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.