Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf12.

(1)

Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4, er mwyn—

(a)

galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau a ganlyn—

(i)

darpariaeth yn FIC F1neu Reoliad 828/2014 a bennir yn Atodlen 5, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 10 fel y’i cymhwysir gan baragraff (1) a’i haddasu gan Ran 1 o Atodlen 4;

(ii)

rheoliad 5(3), (4) neu (5);

(iii)

rheoliad 6(1) neu (4);

(iv)

rheoliad 7(1), (4) neu (5); neu

(v)

rheoliad 8(1) neu (3); a

(b)

peri bod y methiant i gydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn drosedd.

(2)

Mae is-adrannau (1) i (8) o adran 3214 o’r Ddeddf (pwerau mynediad) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos adran 32(1)) a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4, er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd—

(a)

i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes neu a oedd darpariaeth yn FIC F2neu Reoliad 828/2014 a bennir yn Atodlen 5 wedi ei thorri, i’r graddau y darperir ar ei chyfer yn adran 32(1)(a) fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn a’i haddasu gan Ran 2 o Atodlen 4;

(b)

i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac

(c)

wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.

(3)

Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 4, er mwyn galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(4)

Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelio yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys, gyda’r addasiadau (yn achos is-adrannau (1) a (3) o adran 39) a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 4, er mwyn ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5)

Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 5 o Atodlen 4 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r Rhan honno, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(6)

Mae paragraffau (1) i (4) heb ragfarn i gymhwyso adrannau 10, 32, 37 a 39 o’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir yn y paragraffau hynny.