Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
(4)
At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Medi 2014—
(a)
rheoliad 4;
(b)
rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath;
(c)
rheoliad 14 i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 7;
(d)
Atodlen 2;
(e)
Rhan 1 o Atodlen 5; ac
(f)
Rhan 1 o Atodlen 7.
(5)
At ddibenion y darpariaethau a ganlyn, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2016—
(a)
Rhan 3 o Atodlen 5; a
(b)
rheoliad 12 ac Atodlen 4 i’r graddau (drwy gymhwyso, gyda rhai addasiadau, ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf) y maent yn galluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i berson yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio â’r ddarpariaeth yn FIC a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 5 ac yn galluogi apêl i gael ei gwneud yn erbyn hysbysiad o’r fath ac ymdrin â’r apêl honno, a’i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella o’r fath.
(6)
At ddibenion Rhan 2 o Atodlen 6, a rheoliad 13 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o Atodlen 6, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2018.