xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
30. Yn rheoliad 5 (disgrifiadau neilltuedig), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—
“(b)y disgrifiad hwnnw, neu’r peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw’n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r sylwedd y mae’n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw;
(c)y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd hwnnw’n gynnyrch dynodedig ac nad yw’n cynnwys cynnyrch dynodedig; neu
(ch)bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio i ddynodi’r bwyd yn unol â’r arferion sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig ac na all y bwyd gael ei ddrysu â chynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 30 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)