ATODLEN 7Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill i offerynnau statudol

RHAN 2Diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau eraill sy’n dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014

Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003I130

Yn rheoliad 5 (disgrifiadau neilltuedig), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

b

y disgrifiad hwnnw, neu’r peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw’n cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r sylwedd y mae’n cyfeirio ato ond yn un o gynhwysion y bwyd hwnnw;

c

y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd hwnnw’n gynnyrch dynodedig ac nad yw’n cynnwys cynnyrch dynodedig; neu

ch

bod y disgrifiad hwnnw, y peth hwnnw sy’n deillio ohono neu’r gair hwnnw yn cael eu defnyddio i ddynodi’r bwyd yn unol â’r arferion sy’n gymwys yn y Deyrnas Unedig ac na all y bwyd gael ei ddrysu â chynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 1.