Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

Rheoliad 7

ATODLEN 3LL+CBwydydd nad yw rheoliad 7 yn gymwys iddynt

1.  Cig amrwd nad ychwanegwyd cynhwysyn ato ac eithrio ensymau proteolytig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

2.  Cyw iâr wedi ei rewi ac wedi ei rewi’n gyflym y mae Erthygl 15 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 yn nodi rheolau manwl ynglŷn â chymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata cig dofednod(1) yn gymwys iddo ac nad yw ei gynhwysiad dŵr yn fwy na’r gwerthoedd sy’n dechnegol anochel a bennir yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr Erthygl honno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

3.  Toriadau cig dofednod ffres, wedi eu rhewi ac wedi eu rhewi’n gyflym y mae Erthygl 20 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 yn gymwys iddynt ac nad yw eu cynhwysiad dŵr yn fwy na’r gwerthoedd sy’n dechnegol anochel a bennir yn unol â’r hyn y darperir ar ei gyfer yn yr Erthygl honno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

4.  Brechdanau, rholion wedi eu llenwi a chynhyrchion wedi eu llenwi sy’n debyg o ran eu natur i frechdanau a rholion wedi eu llenwi, sy’n barod i’w bwyta heb ragor o brosesu, ac eithrio cynhyrchion sy’n cynnwys cig a werthir o dan yr enw “byrgyr”, “byrgyr rhad” neu “hambyrgyr” (p’un a oleddfir hwy gan eiriau eraill neu beidio).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

5.  Pitsas a chynhyrchion tebyg sydd â thopin.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

6.  Unrhyw fwyd o’r enw “potes”, “grefi” neu “cawl”, p’un a oleddfir hwy gan eiriau eraill neu beidio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

7.  Bwyd sy’n gydosodiad o ddau neu ragor o gynhwysion na fu’n destun unrhyw broses neu driniaeth ar ôl cael ei gydosod, ac a werthir i’r defnyddiwr terfynol ar ffurf cyfran unigol y bwriedir iddi gael ei bwyta heb ragor o drin neu brosesu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 13.12.2014, gweler a. 1(3)

(1)

OJ Rhif L 157, 17.6.2008, t 46, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t 671).