Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) drwy estyn y diffiniad o ragnodydd drwy fewnosod dau gategori o ragnodydd annibynnol: ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol; a phodiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”) drwy estyn yr esemptiad i’r gofyniad i godi tâl am fagiau siopa untro.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.