NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 9 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gwahardd, yn ddarostyngedig i eithriadau, hollti hawl comin oddi wrth y tir y mae’r hawl honno’n gysylltiedig ag ef.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn caniatáu hollti dros dro hawl comin i bori anifeiliaid oddi wrth y tir y mae’r hawl honno’n gysylltiedig ag ef drwy alluogi lesio neu drwyddedu’r hawl i drydydd parti am ddim mwy na phum mlynedd.

Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gytundeb hollti dros dro a wneir o dan y Gorchymyn hwn gynnwys cymal yn sicrhau yr hysbysir yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin perthnasol a sefydliadau ac unigolion amrywiol eraill am y cytundeb, o fewn 28 o ddiwrnodau.

Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.

Mae erthygl 6 yn diogelu effaith unrhyw lesoedd neu drwyddedau yr ymrwymir iddynt yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol o effeithiau’r Gorchymyn hwn ar gostau busnes, o ran cynyddu’r cyfnod y gall cytundeb hollti dros dro bara, wedi cael ei baratoi mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau gan yr Adran Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2014.