RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2014;

(b)yn gymwys o ran Cymru ac o ganlyniad i hynny mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2—

(i)yn ymestyn i Gymru a Lloegr; a

(ii)yn gymwys o ran Cymru yn unig; ac

(c)yn dod i rym ar 5 Medi 2014.

Diwygiadau canlyniadol

2.—(1Yn adran 10 o Ddeddf Drylliau 1968(1) (cigydda anifeiliaid)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats” rhodder “holding a relevant licence”; a

(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) For the purposes of subsection (1) a person holds a relevant licence if that person—

(a)is licensed under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995 to slaughter horses, cattle, sheep, swine or goats; or

(b)holds a certificate of competence or is licensed under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.

(2Yn adran 16(1)(c) o Ddeddf Lladd-dai 1974(2) (rheoli lladd-dai cyhoeddus), ar ôl “the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.

(3Yn Atodlen 1 i Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986(3) (dulliau priodol o ladd heb boen), yn Nhabl A, yn y golofn ar y chwith o’r pumed cofnod, ar ôl “a current licence granted under the Welfare of Animals (Slaughter or Killing) Regulations 1995” mewnosoder “or a certificate of competence or licence issued under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014”.

(4Ym mharagraff 12 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013(4)

(a)dileer y gair “or” ar ôl is-baragraff (a); a

(b)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder

or;

(c)a certificate of competence or licence to kill animals under the Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014.

(1)

1968 p. 27; diwygiwyd adran 10 gan O.S. 1995/731, rheoliad 28(2) ac Atodlen 14, paragraff (1).

(2)

1974 p. 3; diwygiwyd adran 16(1)(c) gan O.S. 1995/731, rheoliad 28(2) ac Atodlen 14, paragraff 2(3).

(3)

1986 p. 14; gwnaed diwygiadau perthnasol i Dabl A yn Atodlen 1 gan O.S. 2012/3039, rheoliadau 2 ac 16(1) a (4)(d).